kowydd fel ir aeth dd ap glm noswaith orew i garv
1 Gwae a garo gwag eiriawl
2 eithr yr haf mae gwnevthvr hawl
3 wedir vnnos am dlosferch
4 a gefais i am gof serch
5 y gayaf a ddyga n ddig
6 dylwm wedi r nadolig
7 yr eiry oer yw yr arwydd
8 ar rhew ar pibonwy rhwydd
9 edifar hwyl fawrddisgwyl farn
10 dyfod yn frwysg or dafarn
11 i geisio mewn mowrdro mav
12 gweled serchowgddyn golav
13 gwedi devthvm gwybvm ged
14 perygl oedd gerllaw r pared
15 tew oedd dan frig y to oer
16 rhywlyb bibonwy rhewloer
17 hyfedr im safn y dafna
18 rhwysg oer chwibenigl rhisg ia
19 canhwyllev defnyddiev dig
20 pyrs addwyn paris eiddig
21 disglair gribin ewinrhew
22 dannedd og rywiog o rew
23 deigrev oer dagrav o ia
24 cofys o ddvrew cyfa
25 gwybv fyngwar digar don
26 gloes y gwerthydydd gleission
27 gwneythym amnaid i gnithiaw
28 yn llaes ar y ffenestr am llaw
29 cynt xx mi clybv bryd cyntvn
30 gerwin fodd y gwr noi fvn
31 ag ylino y ddyn geinloer
32 a wnai ai benelin oer
33 tybio bod trwy amod rhai
34 meinwas yn ceisio mwnai
35 neidio ym or delff celffaint
36 oi wal i hvn awel haint
37 llwfr oedd ddigwas anrassol
38 llefain or milain im ol
39 dvg am ymhen gwaith enbyd
40 dorf fawr gas y dref i gyd
41 llefain o hwn gwn ganllef
42 llyma i ol a llwm yw ef
43 rhoi canwyll fair ddiwairoed
44 yn ael rhych yn ol yn rhoed
45 yna i kyrchais drais dryglew
46 ar hyd y dryckin ar rhew
47 kyrchais ir bedlwyn mwynaf
48 ar hynt am lloches yr haf
49 tygaswn fod clod clevdeg
50 y tyno dail ar ty n deg
51 a man adar am carai
52 a merch a welswn ym mai
53 yno nid oedd le vnoed
54 llyma gawdd eithr llwm o goed
55 nag arwydd serch nag xxx{irddail}
56 nar dyn a welswn nar dail
57 nithiodd y gayaf noethwawr
58 dyle las i dail i lawr
59 am hyn mae ymofyn mai
60 am heiriawl hin nim hoerai
61 dyn wyf yngharchar dan ayaf
62 ar hir hawddamor ir haf
dauid ap gwylym ai cant